Skip to main content

👨‍🏫 Cwrs Datblygu Sgiliau Cymraeg - *Developing Welsh Skills Course*

Thursday, 2 March '23   3 days
Calon Tysul (Pwll - Pool), Heol Llyn Y Fran, Llandysul, Ceredigion, SA44 4HP
18 to 99 years
6 spaces available
👨‍🏫 Cwrs Datblygu Sgiliau Cymraeg - *Developing Welsh Skills Course*

Details

Cwrs i wella sgiliau Cymraeg ar gyfer athrawon / cynorthwywyr dysgu nofio i blant

Gyda mwy o alw am wersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen cyrsiau gloywi’r iaith ar gyfer y gweithlu dysgu nofio ac rydyn ni yma i helpu!

Dyma gwrs newydd, arloesol ar gyfer athrawon / cynorthwywyr nofio ac unrhyw un sydd yn rhan o’r sector dysgu nofio sydd eisiau gwella neu ymarfer eu sgiliau Cymraeg. Cwrs dwys dros dridiau mewn cadarnle y Gymraeg, Llandysul

A course to improve the Welsh skills of teachers / assistants who teach children to swim

With more demand for swimming lessons through the medium of Welsh, language refresher courses are needed for the learn to swim workforce and we are here to help!

This is a new, innovative course for swimming teachers / assistants and anyone who is part of the learn to swim sector who wants to improve or practice their Welsh skills. An immersive course over three days held in one of the strongholds of the Welsh language, Llandysul

[CYM / ENG 👇]
Gyda mwy o alw am wersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen cyrsiau gloywi’r iaith ar gyfer y gweithlu dysgu nofio ac mae Calon Tysul yma i helpu!
Mi fyddi di’n gadael y cwrs gyda hyder ac awch newydd tuag at ddysgu nofio trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ehangu dy eirfa terminoleg dysgu nofio Cymraeg.

Cynnwys y cwrs:
-Ymarfer dysgu gwersi nofio / gweithgareddau dŵr yn Gymraeg
-Rhoi cyfarwyddiadau grŵp yn y Gymraeg / dwyieithog
-Deall a defnyddio termau nofio yn y Gymraeg
-Cynnal gwers nofio ddwyieithog yn effeithiol

Mi fydd ffocws ar weithgareddau ymarferol yn y dŵr yn ystod y cwrs, yn ogystal â’r cyfle i ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg.

Fe fydd rhai gweithgareddau yn digwydd yn ein pwll nofio dan do a bydd rhai yn digwydd ar y llyn / afon yn Llandysul Paddlers.

Fe fydd cyfle i arwain / cynorthwyo gwersi gyda phlant er mwyn ymarfer dysgu yn y Gymraeg / dysgu’n ddwyieithog a bydd ein tiwtoriaid wrth dy ymyl i gefnogi.

Ydy'r cwrs yn addas iti?
🔞 18 oed+
💬 Gallu siarad a deall rhywfaint o Gymraeg
🏊‍♀️ Gweithio yn y sector dysgu nofio
👩‍👧‍👦 Eisiau dysgu nofio i blant yn y Gymraeg
🛏 Cwrs preswyl (2 noson yn Llandysul)
Cost y cwrs - gan fod hyn yn gwrs peilot, mae cost y cwrs yn £49 yn unig. Mae hynny'n cynnwys y cwrs, llety a bwyd!

=========

With more demand for swimming lessons through the medium of Welsh, language refresher courses are needed for the learn to swim workforce and Calon Tysul is here to help!

You will leave the course with confidence and a new appetite towards teaching swimming through the medium of Welsh whilst expanding your Welsh learn to swim vocabulary.

Course content:
-Practice teaching swimming lessons / water activities in Welsh
-Giving group instructions in Welsh / bilingual
-Understand and use swimming terms in Welsh
-Conducting a bilingual swimming lesson effectively

There will be a focus on practical activities in the water during the course, as well as the opportunity to use your Welsh skills.

Some activities will take place in our indoor swimming pool and some will take place on the lake / river at Llandysul Paddlers.

There will be an opportunity to lead / assist lessons with children in order to practice teaching in Welsh / teaching bilingually and our tutors will be by your side to support you.

Is this course suitable for you?
🔞 18 years+
💬 Able to speak and understand some Welsh
🏊‍♀️ Work in the learn to swim sector
👩‍👧‍👦 Want to teach children swimming in Welsh
🛏 Residential course (2 nights in Llandysul)
Course cost - as this is a pilot course, the cost of the course is only £49. This includes the course, accommodation and food!

Instructions

Mwy o fanylion
For more details

https://calontysul.cymru/datblygu-sgiliau-cymraeg-athrawon-nofio/

Dydd Iau 2/3/23:
11:00 cyrraedd Llandysul
11:30 ymlaen – gweithgareddau’r cwrs
18:30 swper ac yna gweithgaredd cymdeithasol

Dydd Gwener 3/3/23:
09:00 ymlaen – gweithgareddau’r cwrs
18:30 swper ac yna gweithgaredd cymdeithasol

Dydd Sadwrn 4/3/23:
09:00 ymlaen – gweithgareddau’r cwrs
13:00 cinio
14:00 cwrs yn gorffen

Thursday 2/3/23:
11:00 arrive in Llandysul
11:30 onwards – course activities
18:30 dinner followed by a social activity

Friday 3/3/23:
09:00 onwards – course activities
18:30 dinner followed by a social activity

Saturday 4/3/23:
09:00 onwards – course activities
13:00 lunch
14:00 course ends

Tickets

Cost

Oedolyn - Adult

Ffi gostyngol ar gyfer cwrs peilot Discounted fee for pilot course
£49.00

Location

Calon Tysul (Pwll - Pool)
Heol Llyn Y Fran
Llandysul
Ceredigion
SA44 4HP